Psalms 16

Y dewis gorau – Trystio Duw

Wedi ei chofnodi gan Dafydd.

1Amddiffyn fi, O Dduw;
dw i'n troi atat ti am loches.
2Dywedais wrth yr Arglwydd,
“Ti ydy fy Meistr i;
mae fy lles i yn dibynnu arnat ti.”
3Y bobl dduwiol yn y wlad ydy fy arwyr,
dw i wrth fy modd gyda nhw.
4Ond bydd y rhai sy'n dilyn duwiau eraill
yn cael llwyth o drafferthion!
Dw i eisiau dim i'w wneud â'u hoffrymau o waed.
Dw i ddim am eu henwi nhw hyd yn oed!
5Ti, Arglwydd, ydy'r un dw i eisiau.
Mae fy nyfodol i yn dy law di.
6Rwyt ti wedi rhoi tir da i mi;
mae gen i etifeddiaeth hyfryd.
7Bendithiaf yr Arglwydd am fy arwain i;
ac am siarad gyda mi yn y nos.
8Dw i mor ymwybodol fod yr Arglwydd gyda mi.
Mae'n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd.
9Felly, mae fy nghalon i'n llawen!
Dw i'n gorfoleddu!
Dw i'n gwybod y bydda i'n saff!
10Wnei di ddim gadael i mi fynd i fyd y meirw,
na gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.
11Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi;
bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd
a hyfrydwch diddiwedd bob amser.
Copyright information for CYM